Keeping Faith (2017–…): Season 2, Episode 4 - Episode #2.4 - full transcript

If I can close the Corran Energy
deal, I'll be free of Gael.

The body in the dunes. Am I safe?

Some things from Evan's case
are still niggling me.

Things not quite resolved.

I don't know
what you're talking about.

Euog.

Wi 'di cael parol cynnar.
Weda i wrth y plant yn y bore.

Sa i'n credu
bo fi moyn gweld e rhagor.

Wi ddim yn barod.

Dw i'n caru ti, Faith.

F'arglwydd...



..rwy'n erfyn
y ddedfryd lleia posib.

Mae bywyd Madlen Vaughan
wedi ei strywo'n barod.

Caiff unrhyw gyfnod dan glo
effaith enfawr ar ei bywyd...

..heb son am ei hiechyd corfforol.

Ac, ar ol cael ei barnu'n euog
o ladd ei gwr...

..gaiff hi byth weld ei phlentyn
eto, yn bendant ddim wrth ei hunan.

Mae Madlen...

Mae Madlen yn caru ei mab, Dyfan...

..mwy na geiriau.

Sefwch Mrs Vaughan,
os gwelwch yn dda.

Rwy'n eich dedfrydu chi
i garchar am oes.

Y ddedfryd arferol am lofruddiaeth
gydag arf fel hyn fyddai 30 mlynedd.

O ystyried nad oes gennych hanes
o droseddu a'ch cyflwr meddygol...

..rwyf am leihau'r ddedfryd,
yn unol a'm hawl i wneud hynny...



..i 15 mlynedd.

Diolch, f'arglwydd.

Dere, bah.

Mae'n olreit.

Fe wnawn ni bopeth allwn ni, oce?

Wi'n addo i ti.

Ond plis, plis, plis cymra dy meds.

Madlen, ti'n addo?

Ti'n addo?

Oce.

Y fenyw yn y lluniau.
Atgoffa fi fel o'dd hi'n edrych.

Tenau. Cot pinc. Gwallt golau.

Faint oed o'dd hi?

Ugeiniau canol.

Ti erioed wedi cwrdd a hi.

Efallai taw hi wnaeth.

Cerys, paid, paid.

Os yw hi'n apelio, bydd rhaid iddyn
nhw ymchwilio i gleient ffyddlon.

Ti'n gymaint o gachgi, Tom.

Jyst... un funud.

Ti angen brec. Mae Evan yn dod adre.
Ti'n meddwl bo fi'm yn gwybod 'na?

Fi ffaelu gweud 'tho ti pwy mor
ffycin conffiwsd wi'n teimlo.

Efallai bo ti'n crap
ar yr empathy front...

..ond mae'n rhaid bod ti hyd yn oed
yn gallu jyst deall...

..bod hyn tamed bach yn anodd i fi.

Fi yn, Faith, achos bo fi'n sdyc
yn y gors yma gyda ti.

Nage jyst ti sy'n diodde.
Meddwl sut mae Tom yn teimlo.

Be wedest ti? Cors?

Ie - cors, Faith. Llaca. Llaid.

Mess, Faith.

Fi'n trio ngorau i ffindo mas
pam bod Corran Energy wedi crasho...

..fel bo ti yn gallu...
Sori.

Gael.

Mae hi tu fas.

Sori.

Fi mor sori, oce?

Sori.

Faith.

Faith.
Mor sori.

Dere 'ma.

Mae'n olreit.

Mae'n olreit, oce?
Diolch.

Sorry to hear about the case.

So she shot her husband.

What was his name?
Will Vaughan.

Hmm. In cold blood.

I hear he was having an affair.

I can't discuss the case with you.
Very honourable.

Did you screw my husband?

He's coming out the day after
tomorrow, but you know that.

Yes, I did.
In this cab, in the boardroom...

How do I know that's true?
You don't.

Your problem is
you've got a weak husband.

This Corran deal.
We've agreed it's the end of it.

No, now Breeze is onto you,
you've run out of currency, lady.

So careless
to get followed like that.

I could bring you down.
Then we'll both go down together.

I could bring you down.

So, will you be taking Evan back?

Do you mean am I allowing him
across the threshold?

To hold my children?

Allow him to hurt me again?

Or share the same bed as him?

I wasn't breaking it down
into chapters but all of the above.

Have you ever wanted children, Gale?

I did get pregnant once.

I lost him. Jimmy.

Seven months I carried him
and then, he died.

That's hard.

Sometimes, I find myself
almost liking you, Faith.

I just don't trust you.

You get this deal, Faith.

I'll do my very best.

Y prif ffactor yw bod Tsieina
wedi bod yn tanbrisio.

Maen nhw'n ffaelu cystadlu
a'r ddau gwmni Cymreig arall...

..ac mae'r banc
'di colli ffydd ynddyn nhw.

Maen nhw'n gorfod gwerthu.

Cadw fe'n cwl. 'Sdim ishe seboni fe.

Ry'n ni eisoes mewn trafodaethau
gyda chwmni lleol arall.

Cwmni Cymreig.

Mae Mrs Reardon yn fodlon
arwyddo nawr, 'da taliad llawn.

Dim survey nac audit lletchwith.

Ac mae hi'n fodlon
edrych ar ol y gweithwyr i gyd.

Rhywbeth wnaiff blesio'r wasg leol.

Chi'n gwastraffu'ch anadl, Faith.

Oni bai fod Mrs Reardon
yn dyblu ei chynnig...

..fydd y bwrdd
ddim mewn unrhyw sefyllfa...

..i ystyried y peth.

Shwt y'ch chi, ar ol yr achos?

Uffernol.

Fel bod y system
yn gweithio yn erbyn ni.

Madlen druan.

Cofiwch fi'n gynnes iawn ati.

Chi yw'r person cyntaf
i ddweud 'na, Geraint.

Diolch. Fe wnaf fi.

Fi'm yn ffindo hyn
yn rhwydd chwaith, gyda llaw.

Fyddan nhw'n stale
erbyn Dydd Gwener?

Byddan.
'Na pam ni'n gwneud nhw nawr.

Gall Evan ddod i sefyll 'da fi
os oes problem.

Mae digon o le 'da fi.

Nac yw Dadi'n moyn dod gartre?
Wrth gwrs bo fe, cariad.

All e ddim aros.

Gwell i fi fynd i bigo Alys lan.
Wnaf fi fynd.

Mae'r busnes mewn mess.

'So buddsoddi'n gwneud sens.

Mae hi ishe busnes rhad
iddi gael achub swyddi...

..ac edrych fel arwr lleol parchus.

Ie. Money laundering i'r Reardons.

Reit. Wi'n gorffod mynd.
Faith...

Mynd nawr, reit?

Ti'n gwneud fi'n hapus. Diolch.

O, na! My god!

Alys!

Alys, ti'n iawn?

Mae hi'n iawn, Faith.

Taro a ffoi o'dd e - hit and run.

Alys, ti'n OK? Drycha ar Mami.

Ti'n oce?

Angie!

Ni'n trial
cael gafael ar Steve Baldini.

Beth ddigwyddodd?

Pam wnaeth e ddim stopo, Mam?
Mae Mami 'ma.

Wnaeth y car jyst cario mlaen.

Oce.

Lle mae hi?
Wedi mynd i gael X-ray.

Wnes di ddim mynd hefo hi?
Dries i, ond...

Alys. Edrych arna i.
Steve, paid!

Be wnes di weld? Dwed wrtha i.

Car gwyn.
Ie, a be ddigwyddodd?

Wnaeth e ddreifio aton ni.

Dim byd arall?
Ddim yn stopio.

Car gwyn? Oce.
Car gwyn, oce?

Oce.

Mae pob dim yn iawn, cariad.

Gawn ni fynd adre'n fuan.

Allen ni gael parti ar y traeth.

Falle gadael iddyn nhw
gael bach o amser, fel teulu.

Ond 'dyn ni yn deulu, Tom.

Ac mae angen profi,
er gwaetha popeth...

Ddim dyna beth oeddwn i'n feddwl.

Evan druan. O'dd e ddim yn reit
taw fe gas y bai am bopeth.

Ma' fe rhy neis.

Marion, chi'n gwybod
bod hynny ddim yn wir.

Mae e 'di gwneud pethau
sy'n gamweddau difrifol.

'Sdim pwynt gwadu 'na.
Dyw hynny ddim yn helpu neb.

Damo chi, Tom!

Mae'r dyddiau nesan
yn mynd i fod yn sbort, Pero.

Good boy.

Roedd Alys groes y ffordd.

Mae hi wedi cael real siglad,
fel 'se ti'n dishgwl.

Oedd neb wedi gweld dim byd?

Maen nhw'n aros
i Angie ddod at ein hunan.

Pwy yw Angie?

Ffrind newydd Alys.

Na i ffono.
Na, jyst aros.

Nes i ti ddod gartre.

Mae fory'n ddiwrnod mawr.

Ti 'di gweld Gael wedyn, ers symud?

Dwed y gwir, plis.

Dw i wedi...

..bod yn trio perswadio hi
i adael i ti fod.

Wnaeth Cerys ffono.
Pryd?

O'dd hi'n becso
bo ti'n gwneud mwy a mwy i Gael.

Pam wnes di'm gofyn i fi?

Rhag ofn i ti ymateb fel hyn.

Visits ti yw'r unig beth
sy'n cadw fi fynd.

Wnaeth Cerys son am y ddel
Corran Energy.

Wnaeth hi son ei bod hi wedi
rhedeg mas o inc i'r printer 'fyd?

Faith, gwranda!

Mae Gael 'di addo unwaith bod y ddel
wedi ei chwblhau...

..wnaiff hi adael i ni fod.

Y ddau ohonon ni? Ti a fi?
Ie.

Rhaid i ni gael ein bywydau
nol ar trac.

Ti'n gwybod bod hynny ddim yn bosib.

Wel, un cam ar y tro.

Gweld ti fory.

Gartre.

Mae Tom yn dod i nol fi.

Ti oedd yn iawn.

Ma'n rhaid i fi gamu nol,
er lles fy hunan.

Dw i'n falch bod geiriau cryf
yn y storfa wedi gweithio.

Mae'r achos yn rhy fawr i ni.

'So'r adnoddau 'da ni.

'So'r arian 'da Madlen hefyd.

O, Delyth!

Dw i wedi bod yn edrych am bapur
yn y storfa.

Sori. Joc breifat.

Eistedd lawr, Delyth. Tyca mewn.
Helpa dy hunan. Dere.

Mae cwpl o negeseuon -
un gan Corran Energy a hwn.

Ddim wedi gadael ei enw,
ond wedi ffonio ddwywaith.

Ma'n bwysig.

Haia, dyma Faith Howells
yn dychwelyd eich galwad.

Dim syniad pwy y'ch chi.
Pwy yw hwn?

Pam?

Olreit.

Deg munud?

Popeth yn iawn?

Ni 'di ffindo corff mewn car.

Salwn gwyn.

Y gyrrwr, Medwyn Croudace.

Ffonies i chi o'i ffon e.

O'dd e wedi mogi ei hunan.

Ffindodd cryts ifanc y car
wrth y docie.

O'dd ei ffon yn ei boced e.
Mae angen cyfreithiwr arno fe?

'So 'na'n fater brys, odi e?

Es i trwy ei alwadau ffon e.

Y peth yw, Mrs Howells,
y person dwetha iddo ffono o'dd chi.

Am 12.45 today.

Gaf fi...?
Un funud, plis.

Diolch.

'Sdim syniad 'da fi
pwy yw Mr Croudace.

O'dd dwy neges yn y swyddfa
i ffono'r rhif yna.

Yn ol Delyth,
wrthododd e adael enw.

Galwadau i'r swyddfa a'ch ffon chi,
a 'sdim syniad 'da chi pwy o'dd e?

Ddewch chi 'da fi i'r morgue,
Mrs Howells?

Nawr?

Wrth gwrs.

Dim problem.

Shw mae Alys?

Wnes i adael iddi
aros gartre o'r ysgol.

Wi wedi gweud ers sbel fod angen
gosod camerau CCTV ar y sgwar.

'Sdim tystion 'to.

Ni'n aros i Angie
ddod ar ei hunan.

Merch Mr Baldini - Angie Baldini.

Cymrwch eich amser.

'Sdim clem 'da fi pwy yw e.

Hollol siwr?
Gawn ni...?

O'dd e'n gweithio
yn yr adran gynllunio am 20 mlynedd.

Dere, Delyth! Ble ma' fe?

Falle bod rhywun 'di roi e
yn y ffeil anghywir.

Siapa hi, plis!

Mae'n rhaid bod e 'ma rhywle.
Dyma ni! 'Na chi.

Wnaeth Croudace wrthod
cais cynllunio Will Vaughan...

..wythnos cyn y llofruddiaeth.

Gael...

..this has gone beyond a joke now.

I don't know what you made me
deliver to that planning officer...

..but he's dead.

He's dead and I've just been
dragged in to ID his body.

He's dead.

I can't do this.

I haven't felt like this
in 18 months. I feel sick.

What did you do to drag
that poor guy in? What did you do?

Shut up, Faith! Jesus, sounds like
you're losing your cool.

Just get me Corran.

You know the deal.

Wnaeth e adael dwy neges
i fi gysylltu 'dag e.

O'dd e'n trial
gweud rhywbeth wrtha i.

Doedd o erioed 'di cysylltu a ti?

O'n i ddim yn gwybod ei enw fe.

Gwrddon ni ddwywaith
i drosglwyddo pecynnau.

A nawr rwy'n deall
taw fe o'dd y bachan...

..wnaeth wrthod rhoi caniatad
i Will Vaughan...

..wythnos cyn iddo fe gael ei ladd.

O'dd e'n treial
paso gwybodaeth i fi.

Wnes i adael e lawr,
a nawr ma' fe wedi marw.

Hei. 'Sdim bai arnat ti.

Dw i'n gallu teimlo nhw
yn cau amdana i.

Williams a Breeze.

Bydde 'na yn gret, ynbydde fe?

Fi'n mynd mewn
pan mae Evan yn dod mas.

Dw i eisiau
gwneud i ti deimlo'n saff.

O, Steve. Plis.

Wnes i lanast o bethau
18 mis yn ol.

Dylsen i fod wedi gadael i'r Glynns
roi stop ar Gael.

Paid, Steve, plis.

Os wnaeth hi drio nghosbi i
trwy frifo'n ferch fach i...

Stopa! Stopa hi!

Stopa hi, reit?

'Sda ni ddim prawf taw hi wnaeth.

Fedra i'm gwneud hyn, Faith.

Gwylio hi'n dy ddifetha di.

Dy fychanu di.

Na, na, na, na!

Efallai mai'r ysbyty sydd yna.

Shane.
Ie.

Yeah?

Iawn. Fydda i yne.

Shane 'di'r unig un
feder ddifetha Gael.

Mae'ch mam mas 'da Lisa.
Fydd hi ddim yn rhy hwyr.

Nos da.

Dyle Dadi
ddim fod wedi mynd i'r carchar.

Nage ei fai e o'dd e.

Mae'n bwysig
boch chi'n deall 'ny. Oce?

Cysgwch nawr.
Mae fory'n ddiwrnod arbennig.

Nos da.

Dere.

Fi'n dod.

Watsia dy hunan nawr.

Allweddi, plis.

Sori.

Ti'n iawn, blodyn.

Ti'n iawn, yndwyt ti?
Ni i gyd yn iawn, odyn ni?

Fi oedd i fod i feddwi heno, dim ti.

Beth yw hwn?
Ti'n rybish ar hwn!

Diolch.
Cysgu nawr.

Shh! Shh!

Fi'n sori.

Sori.

Shh.

Ti'n ffrind lyfli i fi.

Be ffyc fi'n mynd i wneud?

Be ffyc fi'n mynd i wneud, Lis?

Ma' fe'n dod gartre.

Dyle bo fi'n hapus...

..ond fi ddim.

Nath e groesi'r llinell.

Fi wedi aros achos y plant.

O'n i ddim moyn i nhw
stopo caru fe...

..a stopo trysto fe.

Dw i wedi colli fi
rhywle ar hyd y ffordd, Lis.

Pob bore...

..pa dw i'n dihuno,
fi'n teimlo mor wag.

Ond...

..wedyn mae Steve.

Ma' fe'n gwneud i fi
deimlo'n iawn 'to.

Yn saff.

Ma' fe'n amazing.

Yn gynhyrfus.

Yn scary.

Ac yn amhosib.

Babe?

Na, na. Cer i gysgu.

Arthur? Be sy'n bod?
Dim byd. Ti'n olreit?

Odw, fi'n iawn.

O'n i jyst yn mynd i ffono tacsi.
O'dd rhaid i fi wneud yn siwr fod Lisa'

Roia i lifft i ti os ti'n moyn.

Ti'n siwr?

Ydw. Wi moyn gair ta beth.

Ti'n ddigon sobor am hyn te?
Ie?

Y peth Madlen Vaughan yma.

Os mae rhywun yn grac
ac yn pwyntio dryll atat ti...

..ti'n rhedeg bant.

So ti'n aros i gael dy saethu.

Fi wedi bod rownd drylle ers
sbel hir, ac mae rhywbeth o'i le.

Dwed y peth cynta yna 'to.

Plis?

Caru ti, Faith.

So ti'n rhoi lan, y't ti?

Paid caru fi, Arthur.

Bydde fe...

..rili ddim yn beth da.

Na?

Na.

Mae'n oce.

So ti'n gorfod bod yn gryf
trwy'r amser.

O, fi'n iawn.

Dw i jyst...

Sa i'n gwybod beth sy'n iawn
a beth sydd ddim rhagor.

Mami.

Gwrandewch.

Ti yw'r gorau.

Mae pawb yn credu hynny.

A fi mor browd bo ti'n fam i fi.

Fel Megs a Rhodri.

Oce?

Ydw, cariad.

Nos da.

Nos da, precious.

Delyth, wi yn angladd Will Vaughan
a wi'n blydi hwyr.

Ie. Ta-ta.

Sori.

♪ Pie Jesu Domine

♪ Dona eis requiem

♪ Dona eis requiem ♪

Lwcus 'de nhw ddim yn tagio chdi.

Arwydda fanna.

Dy eiddo personol di a 46.

Bydd dy ymwelydd di yma
mewn tua hanner awr.

Yn ffydd Crist, a chan gredu
fod enaid ein brawd yn nwylo Duw...

..yr ydym yn traddodi ei gorff
i'r ddaear...

..pridd i'r pridd, lludw i'r lludw,
llwch i'r llwch...

..mewn gwir a diogel obaith
o'r atgyfodiad i fywyd tragwyddol.

Trwy ein Harglwydd Iesu Grist
a newidia ein corff gwael...

..fel y bydd yn gyffelyb
i'w gorff gogoneddus ef...

..trwy'r nerth sy'n ei alluogi...

..i ddarostwng popeth iddo Ei hun.

Mi glywais lais o'r Nef
yn dywedyd...

..gwyn eu byd y meirw
sydd yn marw yn yr Arglwydd.

Ie, gwyn eu byd medd yr ysbryd.

Cant orffwys.

Arglwydd, trugarha wrthym.

Should've guessed.
We'll work together. Understand?

You'll not make a move
until I contact you.

I will be in charge.

Oh, and no double-crossing.

Not like the last time.

Are you ready for this?

Faith and I need a fresh start...

..without Gael Reardon in our lives.

I know that Faith is working
for Gael on some property deals.

But that visit to the jewellers?

Yeah, I know.
She's playing a very dangerous game.

God, I love this.

I'm going to be back in London
in a month.

The Vaughan verdict.
It's devastated Faith.

I understand that.
She's a shit-hot lawyer.

If she was in London,
she'd be at the top of her game.

What the fuck is she doing
in a backside place like this?

She married me.

Yeah.

Get me Gael, Evan.

And if you put one foot wrong...

..I'll arrest your gorgeous wife
for money laundering.

I've got the evidence.

Clock's on.

Evan!

O'dd Tom
moyn i fi gydymdeimlo ar ei ran e.

Fi ffaelu gweld Dyfan.

Cadw lygad.

Dyfan.

Hei.

Hei, cariad.

Dyfan.

Get off!

Hei, hei, hei. Dere.

Byth yn ddigon da.

Dere, dere.

On i byth yn ddigon da.

Mae'n oce.

Gwranda nawr, reit?

Gwranda nawr.

Mae dy fam yn caru ti shwt gyment.

Nath hi ofyn i fi weud 'tho ti.

Co. Co.

Maen nhw'n gwerthu'r fferm.

Mae hi'n caru ti, reit?

Maen nhw'n gwerthu'r fferm.

Pwy, bach?

Anti.

Oce.

Lle fi fod mynd?

Newn ni sorto pethe mas.

Dere.

Dw i eisiau Mam.

Wi'n gwybod.

Eisiau Mam.

O, wi'n gwybod.

Ac mae hi eisiau bod 'da ti.

Well, there's posh!

Mae'n siwto fi'n iawn.

Gath hi'r ty. Ges i'n rhyddid.
Real bachelor pad.

Mae newid yn gwneud lles weithie.

Co ti.

Mae'r batri'n llawn nawr.

Teimlo'n nerfus.

Ie, yn naturiol.

Cyn af fi a ti gartre...

Beth yw hwn?

Holl ddogfennau Will Vaughan...

..a'r ceisiadau wnest ti
cyn i ti gael dy aresto.

Es i a nhw o'r swyddfa.

Mae Madlen wedi ei dyfarnu'n euog,
ond 'se fe'n mynd i'r llys eto...

..dw i ddim moyn dy enw di
yn agos at y ceisiadau yna.

Mae hwn yn gyfle newydd i ti.
Ti 'di cael dy gosbi.

'Sdim ishe i ti ngwarchod i.

Roedd y ceisiau cynllunio yna
i gyd yn ddilys...

..ond mae be ti wedi ei wneud
yn gwbl anghyfreithlon.

Plis, paid a mynd 'na.
Dw ddim ond trial fy ngorau.

Mae dod mas
yn anoddach na mynd mewn.

Dw i'n edrych mlaen
i weld Faith a'r plant...

..ond fi'n becso.

Mae hi wedi bod yn anodd ar Faith.

Wi ddim yn gwybod sut mae hi wedi
ymdopi na lle gafodd hi'n nerth.

Iawn?

Fory, fi ishe cyfarfod 'da Madlen.

Fi'n mynd i ffindo'r fenyw
yn y got binc.

Wi'n mynd i wneud popeth allaf fi...

..i gael hi a'i mab
nol at ei gilydd.

Dere. Wnaf fi fynd a ti nol.

Dal yn aros i achos Croudace
fynd at y crwner, gyda llaw.

Rhaid bod nhw'n meddwl
fod rhywun wedi chwarae'n fudr.

Mae 'da Williams ei llygad arna i.
'Sdim byd 'da ti i guddio.

Sut mae cops fel Williams a Breeze
yn cysgu'r nos?

Mama!

Shh, Rhodri! Alli di aros fan hyn?

Alys?

Dere lawr, bach.

Drycha nhw i gyd.

Hei. Hei, ti'n oce, babes?

♪ Rhoies i bopeth ti angen

♪ Ti'n brifo fi'n gwaedu

♪ A'n nerth i gyd roies i ti

♪ Ni'n caru yn gyflawn

♪ Ti'n gadael 'rol colli

♪ Nath fy ngobaith i gyd
fynd gyda ti

♪ Ond roies i nghalon i gyd i ti

♪ Roies i nghalon

♪ Ac er bod e'n torri
Surprise!

♪ Mae'n dal i guro
Dadi!

Ti 'di tyfu!
♪ A roies i'n enaid i gyd

♪ Roies i'n hun

♪ Er mod i'n torri

♪ Dw i'n dal i anadlu

♪ Wna i gysgu trwy'r amser

♪ Yr holl amser a ddygaist

♪ Ond cariad

♪ Dw i'n gwybod y gwir

♪ A roies i nghalon i gyd i ti
Ti'n dishgwl yn denau.

Be gadwodd ti?

Bybls i bawb, ife?
Ie, plis!

Co beth mae'r plant 'di wneud i ti.

Ble mae Alys?
Lan lofft.

Yn stafell ni.

♪ A roies i'n enaid i gyd

♪ Roies i'n hun

♪ Er mod i'n torri

♪ Dw i dal yn anadlu ♪

Haia, cariad.

Wi mor flin.

Wi mor flin.

Fi 'di paratoi'r drunk bunk i ti.

Sa i'n barod 'to.

'Sdim hast.

Ers faint
mae madam 'di bod yn stafell ni?

Ers i ti adael.

Fi'n mynd i gysgu yn y stydi.

So'n chwyrnu i mor wael a hynny,
does bosib?

Wnawn ni drafod yn y bore.

Croeso gartre.

Diolch.
Croeso.

Faith?

Ie?

Fyddan ni'n iawn.

Nos da.
Nos da.

♪ Dim ond dy ddal di

♪ Am rhyw eiliad yn fy mywyd,
dim ond dal ti

♪ Yng nghynddaredd yr ofn

♪ Cydio yn ein gilydd
canol llygad y storm

♪ Dim ond dy gyrraedd

♪ Am rhyw eiliad yn fy mywyd
dim ond cyrraedd

♪ Ac i'r diawl a phob dim

♪ Cydio yn ein gilydd
cyn i ni rodio'r glyn

♪ Alla i ddim bod yr hyn ti'n moyn

♪ Ddim gweld yr hyn ti'n weld

♪ Ni alla'i fyth a bod

♪ Unrhywbeth mwy na

♪ Lle i ti ddod ata i mewn ofn

♪ Gan wybod bydda'i 'na
i ddeall - ond

♪ Mi ffydda'i yn ddim byd

♪ Mi fydda'i yn ddim byd

♪ Mi fydda'i yn ddim byd

♪ Fydda'i yn ddim byd i ti,
mi fydda'i yn ddim byd ♪

Isdeitlwyd gan Cyfatebol
ar gyfer S4C